Dysg fi 'mhob man dysg fi pa fodd
Dysg fi fy Nuw dysg fi pa fodd

(Erfyniad am arweiniad y Bugail Da)
1,2,3,4,5,6,7;  1,2,(4,6),7,5.
Dysg fi 'mhob man, dysg fi pa fodd,
I ddweud a gwneuthur wrth dy fodd;
  Dysg fi ryfela â'r ddraig
      heb goll,
  A dysg fi gonc'ro mhechod oll.

Y gwannaf wyf a'r rheitia ei ddwyn,
O'r defaid gwirion ac o'r ŵyn;
  A diau yw y byddai'n ol
  Oni chwyd y Bugail
      fi 'n ei gôl.

Pan gwelych di fi'n crymu 'mhen,
At ryw wrthddrychau îs y nen:
  O! dangos im' na thâl yr un,
  I'w garu byth ond ti dy hun.

O gwna fi'n golofn gadarn gre',
Yn dy demi lân dod i mi le;
  I lyna wrthyt ti yn lân,
  Y'mhob rhyw drallod fawr a mân.

Rho win ac olew yn fy mriw,
A gwisg fi'n deg â delw Duw;
  A thynn fi'n llon
      i blith y llu,
  Sy' ddisglaer yn y nefoedd fry.

Câf lechu'n dawel yno o hyd,
Anghofio'r boen sydd yn y byd:
  Mae twrfa rhwysg y ddinas fawr
  Yn curo f'enaid gwan i lawr.

Cael teimlo ei hedd
    a'i fywiol ras,
Yw'r nefoedd sy
    ar y ddaear las,
  A'm nefoedd byth
      yn nef y nef
  Fydd edrych ar ei wyneb ef.

                - - - - - 
(Defnyddioldeb)
Dysg fi, fy Nuw, dysg fi pa fodd
I dd'weyd a gwneuthur wrth dy fodd;
  Dysg im' ryfela'r
      ddraig heb goll,
  A dysg im' goncro ' mhechod oll.

Gwna fi fel halen trwy dy ras,
Yn wyn, yn beraidd iawn ei flas;
  Yn foddion yn dy law o hyd
  I buro'r halogedig fyd.

Gad imi wel'd mai ti yw'm rhan,
Gad imi'th ganfod ymhob man,
  Gad imi'n wastad blygu i lawr
  I'th lân ewyllys di bob awr.

             - - - - - 
(Arweiniad a Chynnaliad)
Dysg fi, fy Nuw, dysg fi pa fodd,
I ddweyd a gwneuthur wrth dy fodd;
  Dysg fi ryfela â'r
      ddraig heb goll;
  A dysg fi goncro 'mhechod oll.

Dal fi, fy Nuw, dal fi i'r làn,
'N enwedig dal fi lle 'r wy 'n wan:
  Dal fi yn gryf, nes myn'd i maes,
  O'r byd sy'n llawn
      o bechod cas.

Cymmwysiad llawn o'th waed
    trwy ffydd,
A wna fy enaid llesg yn rhydd;
  A golwg ar dy farwol glwy
  A ladd bechodau fwy na mwy.
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Bryn Teg (J Ambrose Lloyd 1815-74
Ffrydiau Babilon (Thomas Campion 1567-1619)
Hursley (Katholisches Gesangbuch 1774)
  Ipswich (<1829)
Melcombe (Samuel Webbe 1740-1816)

gwelir:
  Dal fi fy Nuw dal fi i'r lan
  O Arglwydd gwna fi'n golofn gre'
  O tyred Iesu cyn del nos
  Oen Duw tragwyddol Fab y Tad
  'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy'
  Rho imi wel'd mai Ti yw'm hedd

(Petition for the guidance of the good Shepherd)
 
Tech me everywhere, teach me how,
To say and do what pleases thee;
  Teach me to battle with the
      dragon without loss,
  And teach me to conquer all my sin.

The weakest I am and the poorest brought,
From the silly sheep and from the lambs;
  And it is doubtful I would be back
  Except that the Shepherd lifts me
      into his bosom.

When you see me bowing my head,
At some objects below the sky:
  Oh show me not one is worth,
  Loving ever except thou thyself.

O make me a firm, strong pillar,
In thy holy temple set me a place;
  To stick to thee completely,
  In every kind of trouble great and small.

Put wine and oil in my wound,
And dress me fairly with the image of God;
  And draw me cheerfully
      into the midst of the host,
  Who are shining in heaven above.

I may hide quietly there always,
Remembering the pain which is in the world:
  The ostentatious din of the great city is
   Beating my weak soul down.

Getting to feel his peace
    and his lively grace,
Is the heaven which is
    on the blue-green earth,
  And my heaven forever
      in the heaven of heaven
  Shall be to look on his face.

                 - - - - -
(Usefulness)
Teach me, my God, teach me how
To speak and act according to thy will;
  Teach me to fight with
      the dragon without loss,
  And teach me to conquer all my sin.

Make me like salt through thy grace,
Blessed, very sweet its taste;
  As medicine in thy hand always
  To purify the defiled world.

Let me see that thou art my portion,
Let me discern thee everywhere,
  Let me continuously bend down
  To thy holy will every hour.

                - - - - -
(Guidance and Support)
Teach me, my God, teach me how
To speak and act to please thee;
  Teach me to battle with the
      dragon without losing;
  And teach me to conquer all my sin.

Hold me, my God, hold me up,
Especially hold me where I am weak:
  Hold me strongly, until going out
  Of the world which is full
      of detestable sin.

The full application of thy blood
    through faith,
Shall set my feeble soul free;
  And a sight of thy mortal wound
  Shall kill sins more than ever.
tr. 2008,22 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'
No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~